Paid Ymddiheuro Titelbild

Paid Ymddiheuro

Von: Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes
  • Inhaltsangabe

  • Sawl gwaith ydych chi ‘di deud “sori i fod yn boen” pan mai’n dod at eich hiechyd? Yn ol ymchwil, mae menywod yn llai tebygol o ymweld a’r meddyg teulu ac yn derbyn llai o fonitro. Mae’n rhaid i hyn newid. Yn y podlediad yma, da ni am fod yn trafod amrywiaeth o agweddau ar iechyd menywod o ddulliau atal cenhedlu i iechyd meddwl, o’r mislif i’r menopos. Elin a Celyn yma. 'Da ni’n ddwy fyfyriwr meddygol ym mhrifysgol Caerdydd sy’n angerddol dros leihau’r stigma o amgylch iechyd menywod. Dyma fan diogel i rannu profiadau a dysgu gyda'n gilydd. Yr unig reol: Paid Ymddiheuro
    Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes
    Mehr anzeigen Weniger anzeigen
  • 6. Bydd Yfory'n Gofalu am ei Hun: Gorbryderu am Iechyd
    Sep 15 2023

    Y Bennod Olaf…am rŵan.

    Wel, wel, dyma ni wedi cyrraedd pennod olaf cyfres gyntaf Paid Ymddiheuro – am siwrne gyffrous hyd yn hyn! Diolch i’n gwesteion ni gyd am fod yn rhan o’n stori ni; ‘da chi gyd yn ANHYGOEL.

    Dyma gyfle i chi ddod i adnabod tîm Paid Ymddiheuro, Elin a Celyn, ychydig yn well.

    Ydych chi wedi sylweddoli sut mae eich teimladau yn newid drwy gydol y mis? A oes gennych chi ffyrdd o ymdopi â’r newidiadau corfforol ac emosiynol rydym i gyd yn profi drwy ein cylchred fislifol? Ydych chi weithiau’n teimlo bo’ chi ‘di cael llond bol?

    Wel peidiwch â phoeni, mae Elin a Celyn yn deall yn llwyr. Dewch i ymuno yn eu trafodaeth nhw am eu profiadau gyda teimlo’n isel, teimlo’n hapus a phob dim yn y canol. Cawn glywed ychydig am brofiadau Celyn yn gwirfoddoli yn Sri Lanka a’i stori hi o fyw â gorbryder iechyd. Yn ogystal bydd Elin yn rhannu beth mae hi wedi’i ddysgu am y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a’r gylchred fislifol a sut mae hyn yn rhoi pŵer a hyder iddi.

    Dydy bywyd ddim yn hawdd. Dydy iechyd menywod ddim yn hawdd. Ond yr hyn sy’n gwneud pob dim yn well yw siarad, addysgu a chael gwared ar stigma. Gobeithio eich bod chi wedi dod yn fwy hyderus wrth wrando ar ein cyfres cyntaf ni ac wedi dechrau … PEIDIO YMDDIHEURO!

    Diolch a llawer o gariad,

    Elin a Celyn xx


    Lincs

    https://www.mind.org.uk/

    https://meddwl.org/

    Mehr anzeigen Weniger anzeigen
    50 Min.
  • 5. Rheoli'r Rhwystredigaeth: Mwy na Chur Pen yw Meigryn
    Sep 8 2023

    Croeso nôl i chi gyd.

    ‘Da ni bron ‘di cyrraedd diwedd y gyfres gyntaf o’r podlediad! Gobeithio eich bod chi gyd yn mwynhau hyd yn hyn.

    Heddiw, dim ond Elin sy’n gallu bod efo chi, a bydd hi’n cael cwmni Heledd Haf Evans i drafod profiadau’r ddwy ohonynt gyda meigryn.

    Dyma gyflwr sydd yn aml yn cael ei anwybyddu o fewn cymdeithas a dydy llawer o bobl ddim yn deall ei fod yn wahanol iawn i brofi cur pen!

    Dysgwch am yr amrywiaeth eang o symptomau all fod yn gysylltiedig â meigryn, gwerthfawrogi sut yn union maent yn amharu ar fywyd o ddydd i ddydd, a gweld sut mae’r ddwy yn ymdopi gyda nhw.

    Cyflwr cyffredin iawn yw hwn, ond eto un ble mae sawl cymhlethdod o fewn unigrywiaeth y symptomau i bawb.

    Mwynhewch a chofiwch, Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch mai dim ond myfyrwyr meddygol yw Celyn ac Elin, felly os oes unrhyw beth yn y bennod sy’n peri gofid i chi ynglŷn â’ch iechyd eich hunain, ewch i weld y meddyg teulu.


    Lincs:

    https://www.nhs.uk/conditions/migraine/

    https://migrainetrust.org/

    https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-66065674

    https://c3sc.org.uk/event-single/headache-and-migraine-support-group/



    Mehr anzeigen Weniger anzeigen
    45 Min.
  • 4. Mae Gan Bawb Lais: Y Frwydr am Ddiagnosis Endometriosis
    Sep 1 2023

    Bore da bawb!

    Mae Elin a Celyn yn ôl heddiw i drafod endometriosis.

    Mae 1 ym mhob 10 menyw yn y Deyrnas Unedig yn byw gydag endometriosis, felly pam yw hi’n cymryd, ar gyfartaledd, 7.5 mlynedd i gael diagnosis ohono?

    Heddiw, cawn gwmni Heledd Roberts ac Elinor Morris i rannu eu straeon ysgytwol a’u profiadau pwerus . Mae’r ddwy stori yn dra wahanol, ond thema tebyg sy’n rhedeg drwy’r ddwy yw brwydo.

    Dewch i gerdded ar hyd eu llwybr caled i dderbyn diagnosis ffurfiol, hyd yn oed wedi llawdriniaeth ar ôl llawdriniaeth. Dewch i barchu y frwydr maent wedi bod yn rhan ohono i geisio cael y gymuned feddygol i wrando.

    Teimla’r ddwy yn hynod angerddol dros godi ymwybyddiaeth am endometriosis ac yn awyddus i chi gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

    Mwynhewch a chofiwch, Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch mai dim ond myfyrwyr meddygol yw Celyn ac Elin, felly  os oes unrhyw beth yn y bennod yma sy’n peri gofid i chi ynglŷn å’ch iechyd eich hunain, ewch i weld eich meddyg teulu.

    Lincs:

    https://www.endometriosis-uk.org/

    https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/endometriosis#:~:text=Endometriosis%20is%20a%20disease%20in,period%20and%20last%20until%20menopause.

    https://www.nhs.uk/conditions/endometriosis/

    https://endometriosisassn.org/endometriosis-resources/

    Instagram Heledd: @heledd_

    Instagram Elinor: @elinormorris_


    Mehr anzeigen Weniger anzeigen
    56 Min.

Das sagen andere Hörer zu Paid Ymddiheuro

Nur Nutzer, die den Titel gehört haben, können Rezensionen abgeben.

Rezensionen - mit Klick auf einen der beiden Reiter können Sie die Quelle der Rezensionen bestimmen.